Cymdeithas Trafnidiaeth Gwledig Preseli

Gwasanaeth Galw-Am-Reid Preseli

Ar gyfer cerddwyr, preswylwyr ac ymwelwyr yn ardal y Preseli. (Amserlen 2008)

'DRAIG WERDD Y PRESELI' yw'r gwasanaeth bws arloesol a hyblyg sy'n gwasanaethu Mynyddoedd y Preselau a'r cymunedau o amgylch.

Yr hyn a olygwn wrth 'hyblyg' yw, er bod gan y bws amserlen a llwybr penodol, gall hefyd wyro oddi ar y llwybr yma i godi teithwyr sydd wedi trefnu ymlaen llaw.

Os yn bwriadu cerdded, medrwch ddefnyddio'r bws i gyrraedd rhyw fan ac, yn ddiweddarach, i ddod nôl, neu ddefnyddio'r bws i gyrraedd rhywle ac yna cerdded i ben eich siwrnai. Felly, trwy ddefnyddio'r bws, ni fydd raid i chi gerdded unlle'r eilwaith. Y Ddraig Werdd yw'r cymar cerdded perffaith!

Os yn ymwelydd medrwch gynllunio eich diwrnod, gan gymryd mantais o'r Ddraig Werdd i'ch codi yn y bore ac i'ch cludo nôl yn ddiweddarach yn y dydd.

Os yn breswylydd, medrwch fanteisio ar y Ddraig Werdd i'ch codi o'ch rhiniog, cyhyd â'ch bod yn byw o fewn milltir i lwybr y bws. Mae hynny'n hwb gwirioneddol i'r rhai hynny sydd ddim mor abl ag y dymunent fod.

Mae'r Ddraig Werdd hefyd yn cysylltu â gwasanaethau bws eraill, sy'n darparu cyswllt uniongyrchol ag Aberteifi, Arberth a Hwlffordd.

Am fanylion llawn.

There are some suggested walks and information for you around the North Pembrokeshire area, available by clicking here