Treulio'ch amser yn Nhrefdraeth

Mae Trefdraeth yn dref brysur yn llawn siopau, caffis, bwytai a thafarndai. Mae yna siopau sy'n gwerthu cynnyrch crefftwyr ac artistiaid lleol, tecstilau o felinau Sir Benfro a chan ddylunwyr lleol, llyfrau, meddyginiaethau llysieuol, bwydydd cyflawn, anrhegion, hen bethau ac anghenion marchogaeth. Mae Canolfan Eco Gorllewin Cymru yma hefyd (01239 820235). Medrwch hurio beic neu gymryd taith gerdded hamddenol o'r Parrog ar hyd yr aber, ble medrwch wylio amrywiaeth o adar gwyllt, ac i'r traeth - neu daith ychydig yn fwy egniol i ben Carn Ingli.

Treulio'ch amser yng Nghrymych

Mae yna boblogaeth o tua 600 yng Nghrymych gan ei wneud yn un o bentrefi mwyaf ardal y Preseli. Mae yno Sinema/Theatr y Gromlech, pwll nofio a chanolfan hamdden. Mae yno hefyd siop grefftau Masnachu Teg, caffi, tafarndai, siop sglodion a physgod, a llawer o siopau eraill. O Grymych medrwch gerdded i ben y Frenni Fawr - 3ydd copa uchaf y Preselau.

Treulio'ch amser yn y Preselau

Mae'r Preselau yn ardal o brydferthwch naturiol o fri ac o ddiddordeb hanesyddol neilltuol. Daw cerig gleision Côr y Cewri o Garn Menyn. Gerllaw mae'r Feidir Aur, llwybr hynafol a arferai fod yn briffordd masnachu rhwng Wessex ac Iwerddon. Hefyd ewch i weld y chwareli yn Rosebush; Eglwys Nanhyfer â'i hywen waedlyd; cylch cerrig Gors Fawr; y gromlech gyn-hanes ym Mhentre Ifan; a'r fryngaer Oes yr Haearn sydd wedi ei hail-greu yng Nghastell Henllys. Yn ychwanegol mae yna ddigonedd o orielau celf a chrefft, gan gynnwys crochenwaith, mohair, llechi a chanhwyllau.

Teithiau cerdded posib

Mae yna hefyd deithiau cymunedol lleol o Drefdraeth a Chrymych. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Ymwelwyr Trefdraeth: 01239 820 912 neu E-bost: info@newporttic.fsnet.co.uk

Dyma manylion am teithiau cerdded boblogol yn lleol. Mae nhw'n rhoi cyfle arbenig i weld yr ardal cefn gwlad arbennig yma. Gallwch darllen fwy am y teithiau yma ac hyd yn oed cael gafael ar mampiau yn y tudalennau mapio bws cerdded.

  1. Nevern - a circular walk out of Nevern 2.3milltir / 1awr 30min
  2. Cwm Gwaun - a circular walk in the Gwaun Valley 5.2miltir / 2awr 15mins
  3. Foel Eryr - a circular walk on the Preseli Hills 6.2miltir / 3awr
  4. Rosebush - Foel Cwm Cerwyn - Rosebush 4.8milltir / 2awr 30min
  5. 'Golden Road' Bwlch Gwynt car park - Crymych. 7.4milltir / 4awr (un ffordd)
  6. Mynachlog-ddu - Carn Menyn - Bedd Arthur - Mynachlog-ddu 5.6milltir / 3awr
  7. Llys-y-Fran - a circular walk around the reservoir - 6.5milltir / 4awr
  8. Frenni Fawr - Frenni Fach - Butchers Arms, Tegryn.

Mae amserau cerdded wedi cael ei cyfrifio gyda cyflymdra cerdded o 2myh. Nid oes amser i gorffwyso yn yr amserau yma.

You can download and print off these maps from: www.pembrokeshirecoast.org.uk


Click on the map to visit the walkers bus interactive mapping page